Cynllunio diogelwch |
|
Ffoniwch Llinell Gymorth Camdriniaeth yn y Cartref a Thrais Rhywiol Cymru Gyfan Siaradwch â rhywun ar ein llinell gymorth gyfrinachol, gallwn ni ddarparu gwybodaeth a chyngor i ddangos y ffordd i chi a rhoi gwybod i chi sut i gael mynediad at gymorth arbenigol. Gallwch ein ffonio ar 0808 80 10 800, unrhyw adeg o’r dydd. Lleihau’r perygl i chi Os ydych chi’n dioddef o drais yn y cartref, bydd angen i chi ystyried sut i leihau’r risg i’ch hunan gan yr unigolyn sy’n eich cam-drin. Rydym yn argymell eich bod yn llunio cynllun diogelwch. Bydd hyn yn eich helpu i baratoi ymlaen llaw ar gyfer amseroedd pan allech fod mewn perygl neu’n cael eich cam-drin yn gorfforol neu ar lafar.
Peidiwch â cheisio dial – nid yw’n ddiogel i chi wneud hynny Mae’n bwysig nad ydych chi’n ceisio dial gan ei fod yn debygol o wneud pethau’n waeth a gall rhywun gael eu hanafu’n ddifrifol o ganlyniad. Ceisiwch adael y sefyllfa pan ydych chi’n adnabod yr arwyddion ac yn teimlo y gall eich partner droi’n ymosodol neu’n dreisgar tuag atoch chi. Os ydych chi’n ceisio dial a bod yr Heddlu yn cael eu galw, mae’n bosibl y byddant yn ystyried mai chi yw’r un sy’n cam-drin a gallant eich arestio a dwyn cyhuddiad yn eich erbyn, yn arbennig os ydych chi’n anafu eich partner wrth ddial. Ffoniwch yr Heddlu Mae llawer o fenywod yn gyndyn o adael eu cartrefi eu hunain, ac yn aml nid ydynt am orffen y berthynas, ond maent am i’r trais ddod i ben. Mewn gwirionedd, mae’n gofyn am beth cryfder a hunanreolaeth i ddioddef camdriniaeth hirdymor ac mae’n cymryd person dewr iawn i ofyn am gymorth. Dylai’r Heddlu gymryd eich cyhuddiadau o ddifrif ac mae gennych chi’r hawl i gael eich diogelu rhag unrhyw niwed. Cofiwch roi gwybod i’r Heddlu am y trais. Nid oes raid i chi ddwyn unrhyw gyhuddiadau os nad ydych chi’n dymuno gwneud hynny, ond fe all helpu gydag unrhyw ddigwyddiadau yn y dyfodol. Gall helpu i adeiladu achos yn erbyn y sawl sy’n cam-drin, os ydych chi’n penderfynu mynd â’r mater ymhellach yn y dyfodol. At hynny, gallant nodi eich cartref fel man ‘risg uchel’ a rhoi marciwr ar eu systemau, er mwyn eich diogelu chi. Os ydych chi’n ofnus neu mewn perygl, ffoniwch yr Heddlu ar 999. |