Ydych chi’n amau bod rhywun yn dioddef o gamdriniaeth yn y cartref?

Os ydych chi’n gwybod neu’n amau bod perthynas, ffrind neu gydweithiwr yn dioddef o gamdriniaeth yn y cartref, mae’n gallu bod yn anodd iawn gwybod beth i’w wneud.

Mae’n bosibl mai’ch greddf gyntaf yw eich bod am ddiogelu eich ffrind neu berthynas, ond gall ymyrryd fod yn beryglus, a hynny i’r ddau ohonoch chi. Fodd bynnag, nid yw hyn yn golygu y dylech chi anwybyddu’r mater – mae camau eraill y gallwch eu cymryd i’w diogelu nhw a’u teulu. Os ydych chi’n dyst i ymosodiad, gallwch ffonio’r Heddlu ar 999.

Os yw eich ffrind yn agored gyda chi ac yn cydnabod y trais, mae’n arwydd cadarnhaol ac yn golygu eu bod yn ymddiried ynoch chi. Ceisiwch gadw mewn cysylltiad â nhw fel nad ydynt yn ymbellhau. Yn aml, mae hyn yn gallu digwydd mewn sefyllfa o’r fath. Fodd bynnag, yn y pen draw, dim ond y nhw all wneud y penderfyniad i adael y berthynas, a gall hyn gymryd sawl cais cyn eu bod yn gadael y berthynas am byth.

Ceisiwch eu hatgoffa mai bai'r un sy’n cam-drin yw trais yn y cartref bob tro.

Ewch ati i annog y sawl sy’n dioddef i geisio cymorth proffesiynol ac i flaenoriaethu eu diogelwch ar bob adeg. Ceisiwch beidio â bod yn ddiamynedd neu’n feirniadol a chofiwch gadw llinellau cyfathrebu ar agor drwy’r adeg. Byddwch chi’n cynnig gobaith i’r sawl sy’n dioddef.

Cofiwch:

  • Mae camdriniaeth yn y cartref yn drosedd – NID YW’N dderbyniol
  • Mae camdriniaeth yn y cartref yn fwy cyffredin nag y byddech yn ei feddwl
  • Mae camdriniaeth yn y cartref yn beryglus iawn a gallai arwain at farwolaeth
  • Mae gan bawb yr hawl i fyw eu bywyd heb orfod ofni trais neu gamdriniaeth
  • Y sawl sy’n cam-drin yw’r unig un sy’n gyfrifol am ei ymddygiad, NID OES bai ar y sawl sy’n cael ei gam-drin

I gael rhagor o wybodaeth oddi ar wefannau eraill, cymerwch gip ar ein dolenni defnyddiol.

Yn y DU, mae 29.9% o fenywod rhwng 16 a 59 oed wedi dioddef camdriniaeth yn y cartref ers iddynt droi’n 16 oed.

 

©2011 All Wales Domestic Abuse and Sexual Violence Helpline. All rights reserved. The Helpline is managed by Welsh Women's Aid - registered under the Industrial and Provident Societies Act 1955 No. 23753R Welsh Women's Aid is an exempt charity. Registered charity number 1140962.