Menywod

Ar draws y byd, mae trais yn erbyn menywod yn achosi mwy o farwolaethau ac anableddau ymhlith menywod rhwng 15 a 44 oed na chanser, malaria, damweiniau ffordd a rhyfel gyda’i gilydd.

Yr un peth sy’n rhoi unigolyn mewn mwy o berygl o ddioddef camdriniaeth yn y cartref neu drais rhywiol na’r un peth arall yw bod yn fenyw. Mae astudiaethau’n dangos bod y rhan fwyaf o bobl sy’n cam-drin yn ddynion.

Fodd bynnag, gall camdriniaeth ddigwydd o fewn cyplau o’r un rhyw ac mewn nifer bach o achosion, menywod yw’r rhai sy’n cam-drin.

Mae trais yn hollol annerbyniol waeth a yw’r sawl sy’n ei gyflawni neu’n ei ddioddef yn ddyn neu’n fenyw, ac mae gan bawb sy’n dioddef yr hawl i fod yn ddiogel.

 

©2011 All Wales Domestic Abuse and Sexual Violence Helpline. All rights reserved. The Helpline is managed by Welsh Women's Aid - registered under the Industrial and Provident Societies Act 1955 No. 23753R Welsh Women's Aid is an exempt charity. Registered charity number 1140962.