Mesurau preifatrwydd |
|
Cyfrinachedd Mae pob galwad i Linell Gymorth Camdriniaeth yn y Cartref a Thrais Rhywiol Cymru Gyfan yn gyfrinachol. Er mwyn cynnig y cymorth gorau posibl, mae’n bosibl y bydd gofyn i ni rannu gwybodaeth ag asiantaethau eraill. Mae hyn ar sail ‘angen i wybod’ yn unig, a hynny er mwyn sicrhau’r canlyniad gorau i chi. Ni fyddwn ni’n gwneud hyn heb geisio eich caniatâd llawn. Fodd bynnag, os ydym ni’n teimlo ar unrhyw adeg bod eich bywyd mewn perygl, byddwn yn rhoi gwybod i’r awdurdodau er mwyn sicrhau eich diogelwch a’ch lles. Mae lles plentyn yn hollbwysig, ac felly nid yw ystyriaethau cyfrinachedd a allai fod yn berthnasol i sefyllfaoedd eraill yn gymwys pan fo plentyn mewn perygl. O’r herwydd, mewn achosion lle mae plentyn mewn perygl, byddwn ni’n rhoi gwybod i’r awdurdodau er mwyn diogelu’r plentyn hwnnw rhag niwed. |