Ein perthynas gyda’r Heddlu |
|
Mae’r Heddlu hefyd yn gyfrifol am helpu i ddiogelu a chefnogi unrhyw un sydd wedi dioddef o gamdriniaeth yn y cartref neu drais rhywiol. Maent yn gwarantu y byddant yn cynnal ymchwiliad llawn i unrhyw ddigwyddiad a chymryd y camau priodol yn erbyn y sawl sy’n gyfrifol, os oes digon o dystiolaeth. Byddant hefyd yn darparu gwybodaeth am brosesau cyfreithiol a gweithdrefnau’r heddlu, yn ogystal â’ch diogelu chi a’ch plant rhag unrhyw niwed uniongyrchol neu niwed pellach. Galw 999 Mewn argyfwng, er enghraifft, os ydych chi neu’ch teulu mewn perygl uniongyrchol, cofiwch ffonio’r Heddlu bob tro ar 999. Galw 101 101 yw’r rhif y dylech ei ffonio os ydych am siarad â’ch Heddlu lleol – pan fo’n llai o argyfwng na ffonio 999. Mae’r llinell hon ar gael 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos. |