Helpu i’ch diogelu chi

Mae gan bawb sy’n dioddef o gamdriniaeth yr hawl i fod yn ddiogel heb orfod byw mewn ofn. Gyda chymorth ein hasiantaethau partner a’r Heddlu, gallwn eich helpu chi i fod yn ddiogel.

Deddfwriaeth

Diogelu Plant

Mae Cymorth i Ferched Cymru yn cydnabod bod gan bob plentyn a pherson ifanc yr hawl i gael eu gwarchod rhag pob math o gamdriniaeth, boed yn gorfforol, yn rhywiol, yn emosiynol neu’n esgeulustra. Ni fydd pryderon ynghylch diogelwch neu les plentyn yn cael eu hanwybyddu.

Er mwyn sicrhau hyn, rydym ni’n gweithio o fewn canllawiau a deddfwriaeth gan gynnwys Gweithdrefnau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan (2008); Deddf Plant 1989; Deddf Hawliau Dynol 1998 a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (dilyswyd gan Lywodraeth y DU ym 1991).

Er ein bod ni’n ymrwymo i sicrhau cyfrinachedd bob amser, mewn materion sy’n ymwneud ag Amddiffyn Plant, byddwn ni’n rhannu gwybodaeth â thrydydd parti os bydd plentyn mewn perygl.

Diogelu Data

Mae’r Llinell Gymorth bob amser yn gweithio’n unol â Deddf Diogelu Data 1998. Mae pob darn o wybodaeth a phob cofnod yn gyfrinachol ac yn cael eu storio’n ddiogel am gyfnod o saith mlynedd. Cânt eu dinistrio ar ôl y cyfnod hwn.

Gorchmynion Amddiffyn Sifil

Os yw eich partner yn eich cam-drin, gallwch geisio peth cymorth a diogelwch o dan y system sifil, a hynny drwy wneud cais am orchymyn peidio ag ymyrryd (sy’n atal eich partner rhag achosi neu fygwth trais tuag atoch, eich brawychu, eich poenydio, eich bygwth neu aflonyddu arnoch chi) neu orchymyn meddiannaeth (i gael gwared â’ch partner o’r cartref) o dan Ddeddf Cyfraith Teulu 1996.

Mae torri gorchymyn peidio ag ymyrryd yn drosedd sy’n cario cosb o hyd at 5 mlynedd yn y carchar.

Os nad ydych chi’n gymwys i wneud cais am orchymyn o dan Ddeddf Cyfraith Teulu 1996, gallwch wneud cais am orchymyn atal o dan Ddeddf Diogelwch rhag Aflonyddu 1997. Bydd y gorchymyn hwn yn atal eich partner rhag aflonyddu arnoch chi, eich bygwth, eich poenydio neu’ch brawychu. At hynny, gall y Llys wneud gorchymyn atal mewn achosion lle mae’ch partner wedi’i gyhuddo â throsedd arall, lle mae’n disgwyl i sefyll ei brawf, lle mae’n cael ei ddedfrydu am drosedd arall neu os nad yw’n cael ei farnu’n euog ond bod y llys o’r farn bod angen gorchymyn er mwyn eich diogelu chi rhag cael eich aflonyddu.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael drwy glicio yma.

Proses erlyn droseddol

Mae’n ddyletswydd ar yr Heddlu i drin camdriniaeth yn y cartref a thrais rhywiol yr un mor ddifrifol ag ymosodiad neu fygythiad gan ddieithryn. Gall pob Swyddog Heddlu ddefnyddio ei bŵer i ymyrryd, arestio, rhybuddio neu ddwyn cyhuddiad yn erbyn rhywun sy’n cam-drin.

I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma.

Canllawiau ar Gyswllt â Phlant

Mae’r gyfraith ynghylch cyswllt â phlant wedi’i hamlinellu yn Neddf Plant 1989. Mae’r Ddeddf yn nodi pan fo’r llys yn dod i benderfyniad am blentyn, mai lles y plentyn yw ei ‘brif ystyriaeth’. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i’r llys ystyried lles y plentyn uwchlaw popeth arall. Yn gyffredinol, mae’r llysoedd yn credu y dylai plant allu cynnal perthynas â’r ddau riant, ac eithrio mewn achosion lle nad yw er budd y plentyn neu fod y plentyn mewn perygl o gael ei niweidio os caniateir cyswllt. Wrth wneud y penderfyniad hwn, mae’n rhaid i’r llys ystyried nifer o ffactorau sy’n ymwneud â lles, gan gynnwys p’un a yw’r plentyn wedi gweld neu glywed camdriniaeth yn y cartref. I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma.

Beth yw achosion gofal?

Os oes gan awdurdod lleol bryderon difrifol am ddiogelwch neu les plentyn, gall gyflwyno cais ger bron y llys i roi’r plentyn mewn gofal. Dim ond mewn achosion lle mae pobl yn bryderus iawn bod plant yn dioddef, neu’n debygol o ddioddef, niwed difrifol o ganlyniad i’r ffordd y mae eu rhieni neu ofalwyr yn gofalu amdanynt y caiff plant eu rhoi mewn gofal, neu os yw’r plentyn y tu hwnt i reolaeth rhiant.

I gael rhagor o wybodaeth am y gyfraith, cliciwch yma.

Mewnfudo, Camdriniaeth yn y Cartref a Dim Mynediad at Arian Cyhoeddus

Hyd yn oed os yw eich statws mewnfudo yn ansefydlog, mae gennych yr hawl i gael eich diogelu rhag camdriniaeth yn y cartref, fel pawb arall sy’n byw yn y DU. Mae gennych yr hawl i ffonio’r Heddlu i geisio diogelwch ac i wneud cais am waharddeb (injunction) yn erbyn partner ymosodol.

Os daethoch i’r DU i briodi neu ymuno â’ch partner sydd eisoes yn y DU, mae rheolau mewnfudo presennol yn nodi bod gofyn i chi gwblhau cyfnod prawf dwy flynedd cyn y gallwch wneud cais am ganiatâd amhenodol i aros yn y wlad. Os ydych chi wedi dioddef camdriniaeth yn y cartref ac yn gallu darparu tystiolaeth glir i brofi hyn, a’ch bod yn destun cyfnod prawf o’r fath, mae’n bosibl y gallwch wneud cais am ganiatâd amhenodol i aros yn y DU. Hyd nes y byddwch yn cael caniatâd amhenodol i aros yn y wlad, ni fyddwch chi’n gallu hawlio y rhan fwyaf o fudd-daliadau’r wladwriaeth. Os ydych chi â’r statws hwn, rydych chi’n unigolyn ‘heb fynediad at arian cyhoeddus’.

I gael rhagor o wybodaeth am y gyfraith mewnfudo mewn perthynas â chamdriniaeth yn y cartref a dim mynediad at arian cyhoeddus cliciwch yma.

I gael rhagor o wybodaeth am y gyfraith, ewch i wefannau Cymorth i Ferched Cymru neu Rights of Women.

 

©2011 All Wales Domestic Abuse and Sexual Violence Helpline. All rights reserved. The Helpline is managed by Welsh Women's Aid - registered under the Industrial and Provident Societies Act 1955 No. 23753R Welsh Women's Aid is an exempt charity. Registered charity number 1140962.