Ein gwasanaethau |
|
Mae Llinell Gymorth Camdriniaeth yn y Cartref a Thrais Rhywiol Cymru Gyfan yn cynnig gwybodaeth a chyngor dwyieithog, 24 awr y dydd. Mae’r Llinell yn helpu ac yn arwain pobl sydd â phrofiad o gamdriniaeth yn y cartref neu drais rhywiol, yn ogystal â’r rheiny sydd angen mynediad at wasanaethau megis cyngor, cefnogaeth frys, diogelwch a gwybodaeth am eu hawliau a’u hopsiynau. Ein Gweledigaeth Rydym am wrando ar bobl sydd â phrofiad o gamdriniaeth yn y cartref a thrais rhywiol a’u cefnogi a’u cynghori, mewn modd cadarnhaol a diogel, a chyda pharch. Ein Cenhadaeth Rydym am weithio gydag asiantaethau partner i sicrhau bod pobl Cymru yn elwa i’r eithaf, a chwarae rhan weithredol yn y broses o wella dealltwriaeth a chodi ymwybyddiaeth o gamdriniaeth yn y cartref a thrais rhywiol. Cynnig Gwerth I’r rheiny sydd â phrofiad o drais rhywiol neu gamdriniaeth yn y cartref, mae Llinell Gymorth Camdriniaeth yn y Cartref a Thrais Rhywiol Cymru Gyfan yn cynnig gwasanaeth dwyieithog 24 awr y dydd i helpu a chynghori pobl ledled Cymru sydd angen mynediad at wasanaethau megis cyngor, cefnogaeth frys, diogelwch a gwybodaeth am eu hawliau a’u hopsiynau. Yn wahanol i nifer o wasanaethau gwybodaeth, mae Llinell Gymorth Camdriniaeth yn y Cartref a Thrais Rhywiol Cymru Gyfan yn cael ei hadnabod a’i hargymell am ei gwasanaeth effeithlon yn ogystal â’i staff profiadol a gwybodus. A'r rheswm am hyn? Llinell Gymorth Camdriniaeth yn y Cartref a Thrais Rhywiol Cymru Gyfan yw’r unig Linell Gymorth o’i math yng Nghymru i gael ei hachredu â Nod Ansawdd y Gymdeithas Llinellau Cymorth. |