Mwy amdanom ni

Cafodd Llinell Gymorth Camdriniaeth yn y Cartref Cymru, fel yr oedd yn cael ei galw’n wreiddiol, ei lansio ar 1 Ebrill 2004.

Gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru, y Gronfa Loteri Fawr a Comic Relief, roedd y Llinell Gymorth ar agor 12 awr y dydd yn wreiddiol. Fodd bynnag, ers mis Ionawr 2007, mae’r llinell bellach ar agor 24 awr y dydd.

Ym mis Ionawr 2012, ar ôl ehangu gwasanaethau’r Llinell Gymorth, cafodd ei hailenwi’n Llinell Gymorth Camdriniaeth yn y Cartref a Thrais Rhywiol Cymru Gyfan.

Ym mis Rhagfyr 2008, llwyddodd y Llinell Gymorth i ennill Achrediad Nod Ansawdd y Gymdeithas Llinellau Cymorth. Y Llinell Gymorth hon yw’r cyntaf yng Nghymru i gael ei hachredu, a’r Llinell Gymorth Camdriniaeth yn y Cartref a Thrais Rhywiol Genedlaethol gyntaf i ennill y wobr arbennig hon am gynnig gwasanaethau o’r safon uchaf.

Mae’r Llinell Gymorth wedi derbyn dros 215,000 o alwadau ers iddi fynd yn fyw yn 2004.

 

©2011 All Wales Domestic Abuse and Sexual Violence Helpline. All rights reserved. The Helpline is managed by Welsh Women's Aid - registered under the Industrial and Provident Societies Act 1955 No. 23753R Welsh Women's Aid is an exempt charity. Registered charity number 1140962.