Cwestiynau cyffredin

Cwestiynau Cyffredin

  1. Beth yw camdriniaeth?

    Yn syml, mae camdriniaeth yn cynnwys un person yn camddefnyddio pŵer ac yn defnyddio rheolaeth dros berson arall lle mae, neu y cafwyd, perthynas agos.
    Mae’n effeithio ar bobl waeth beth yw eu rhyw, hil, dosbarth, oedran, crefydd, rhywioldeb, gallu meddyliol, gallu corfforol, incwm, ffordd o fyw neu’r ardal y maent yn byw ynddi.

  1. Sut alla’i adnabod arwyddion camdriniaeth?

    Nid oes un ffordd hawdd o wybod p’un a yw rhywun yr ydych chi’n ei adnabod yn cael eu cam-drin, ond mae arwyddion y gallwch gadw llygad amdanynt. Mae’n bosibl na fyddant yn amlwg iawn i ddechrau, ond gydag amser, byddant yn dod yn fwy amlwg:
  • Newid y ffordd y maent yn gwisgo neu steil eu gwallt
  • Ynysu eu hunain a chilio oddi wrth ffrindiau a theulu
  • Newid y ffordd y maent yn defnyddio safleoedd rhwydweithio cymdeithasol e.e. diweddaru eu statws yn llai aml, tynnu lluniau oddi ar y wefan neu ddileu ffrindiau
  • Canslo cynlluniau neu wneud esgusodion i beidio â threulio amser gyda ffrindiau
  • Ymddiheuro am ymddygiad rhywun o hyd
  • Iselder neu bryder, ddim mor hapus ag yr arferant fod

    Os ydych chi neu rywun yr ydych chi’n ei adnabod yn dioddef o gamdriniaeth, gallwch geisio cymorth a chefnogaeth gan Linell Gymorth Camdriniaeth yn y Cartref a Thrais Rhywiol Cymru Gyfan, a hynny unrhyw bryd, ddydd neu nos.

  1. Pwy sy’n dioddef o gamdriniaeth yn y cartref?

    Menywod a phlant yw’r rhan helaeth o bobl sy’n dioddef o gamdriniaeth yn y cartref.
    At hynny, ystyrir bod menywod yn llawer mwy tebygol o ddioddef camdriniaeth, a chamdriniaeth rywiol, yn amlach ac i raddau mwy difrifol. Gall menywod ddioddef o gamdriniaeth yn y cartref waeth beth yw eu cefndir ethnig, crefydd, dosbarth, oedran, rhywioldeb, anabledd neu ffordd o fyw. Gall camdriniaeth yn y cartref hefyd ddigwydd mewn amrywiaeth o berthnasau gan gynnwys perthnasau heterorywiol, hoyw, lesbiaidd, deurywiol a thrawsrywiol, a theuluoedd estynedig.


  2. Beth am ddynion sy’n dioddef o gamdriniaeth yn y cartref?

    Rydym ni’n cydnabod bod camdriniaeth a defnyddio rheolaeth dros eraill yn gallu digwydd mewn perthnasau hoyw gwrywaidd a chan fenywod tuag at ddynion.
    Os ydych chi’n dioddef o gamdriniaeth yn y cartref, neu wedi dioddef o gamdriniaeth yn y cartref, neu os ydych chi’n poeni am ffrind neu berthynas sydd yn dioddef, ffoniwch Llinell Gymorth Camdriniaeth yn y Cartref a Thrais Rhywiol Cymru Gyfan yn rhad ac am ddim, 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.

  1. Ai fy mai i yw’r cyfan?

    Mae’n eithriadol o gyffredin i berson sy’n cam-drin feio’r trais ar yr unigolyn sy’n ei ddioddef. Math arall o gam-drin yw hyn, ac mae’n digwydd gan nad ydynt am gymryd cyfrifoldeb am eu hymddygiad treisgar.
    Yr un sy’n cam-drin sy’n gyfrifol ac sydd ar fai bob tro. Mae eich partner yn oedolyn ac yn dewis ymddwyn neu weithredu yn y modd y maent yn ei wneud. Gallant ddewis cerdded i ffwrdd oddi wrth y sefyllfa, ond yn hytrach maent yn dewis cam-drin. P’un a yw’r gamdriniaeth yn gorfforol, ar lafar, yn rhywiol neu’n emosiynol, mae’n gwbl annerbyniol.
    Nid oes esgus dros gamdriniaeth yn y cartref.

 

  1. A yw cam-drin yn drosedd?

    Ydy, mae camdriniaeth yn y cartref yn drosedd.
    Er nad oes un tramgwydd troseddol (criminal offence) o ‘gamdriniaeth yn y cartref’, mae nifer o ymddygiadau a gweithredoedd, sy’n digwydd o fewn sefyllfa ddomestig, sy’n cael eu hystyried i fod yn dramgwyddau troseddol.
    Mae’r rhain yn cynnwys ymosod, bygwth lladd, anafu, tagu neu fygu, aflonyddu, difrod troseddol i eiddo, gwneud i’r sawl sy’n dioddef ofni trais, trais rhywiol (rape) ac ymosodiad rhywiol.
  • Pa mor gyffredin yw camdriniaeth yn y cartref?
  • Bydd un ym mhob 4 menyw yng Nghymru a Lloegr yn dioddef camdriniaeth yn y cartref drwy law eu partner neu gynbartner rhyw ben yn ystod eu bywydau.
  • Yn y DU, caiff 2 fenyw yr wythnos eu llofruddio gan bartner neu gynbartner.
  • Mae achosion o gamdriniaeth yn y cartref yn cyfrif am bron i chwarter y troseddau treisgar a bydd menyw yn dioddef 35 o ymosodiadau ar gyfartaledd cyn rhoi gwybod i’r heddlu am y mater.

    Ond nid trais corfforol yn unig y mae 'camdriniaeth yn y cartref' yn ei olygu – mae’n disgrifio unrhyw gamdriniaeth a ddefnyddir dro ar ôl tro gan un unigolyn i reoli a/neu ddominyddu unigolyn arall y maent mewn perthynas agos â nhw, neu wedi bod yn y gorffennol. Mae hefyd yn cynnwys un aelod o’r teulu yn rheoli a/neu ddominyddu aelod arall o’r teulu.
  • Mewn 90% o achosion o gamdriniaeth yn y cartref, mae plant yn bresennol yn yr un ystafell neu’r ystafell nesaf (Hughes, 1992).

    Hyd yn oed pan fo’n ymddangos nad yw plant yn cael eu cam-drin yn uniongyrchol, mae ymchwil yn dangos ei bod yn debygol eu bod yn ymwybodol o beth sy’n digwydd.
  • Bydd traean o blant yn ceisio ymyrryd yn ystod ymosodiadau, ac mae plant weithiau’n teimlo’n euog os nad ydynt yn helpu rhiant.
  • Amcangyfrifir bod rhwng un a dwy ran o dair o blant mewn cartrefi lle mae’r fam yn cael ei cham-drin hefyd mewn perygl o gael eu cam-drin yn uniongyrchol eu hunain.


  1. Pam fod pobl yn aros mewn perthynas lle maent yn cael eu cam-drin?

    Mae nifer o resymau pan fo rhywun yn aros mewn perthynas o’r fath, ond nid ydynt yn ymwneud â mwynhau’r trais a’r gamdriniaeth.
    Yn aml, mae’r unigolyn yn rhy ofnus i adael. Efallai bod eu partner wedi bygwth eu lladd neu ladd eu plant neu’r anifeiliaid anwes. Efallai bod eu partner hyd yn oed wedi bygwth lladd eu hunain os yw’r dioddefwr yn gadael.


  2. Mae ymchwil yn dangos bod y rhan fwyaf o lofruddiaethau domestig yn digwydd pan fo rhywun ar fin gadael neu wedi gadael a phan fo’r fenyw mewn perthynas arall.

    Efallai bod y sawl sy’n dioddef yn poeni am wneud i’w plant symud neu am eu gadael ar ôl, neu efallai eu bod yn poeni y byddant yn cael eu rhoi mewn gofal os daw pobl i wybod am y gamdriniaeth.
    Mae nifer o bobl yn beio eu hunain am y gamdriniaeth ac yn meddwl mai eu bai nhw yw’r cyfan. Efallai nad ydynt yn ddigon hyderus i adael neu efallai eu bod yn teimlo euogrwydd neu gywilydd am adael i’r gamdriniaeth ddigwydd iddyn nhw a’u plant.
    Nid yw llawer o bobl yn ymwybodol o’r help a’r gefnogaeth sydd ar gael gan asiantaethau a’r Heddlu.
    Yn aml, bydd y rhai sy’n cam-drin yn dal arian yn ôl oddi wrth eu partneriaid fel nad oes ganddynt arian i ddianc.
    Yn aml, mae camdriniaeth emosiynol yn gwneud i’r person sy’n dioddef deimlo’n ddi-rym, ac mae’n bosibl eu bod yn teimlo nad ydynt ddigon cryf i adael a/neu yn ddigon cryf i oroesi ar eu pen eu hunain. Efallai eu bod yn poeni na fyddant yn gallu dod o hyd i unman i fyw neu arian i fyw arno.
    Mae llawer o ddioddefwyr yn teimlo cysylltiad emosiynol â’u partneriaid er gwaethaf y gamdriniaeth. Nid yw hyn yn golygu eu bod yn mwynhau’r trais, ond efallai eu bod yn gobeithio y bydd eu partner yn newid neu y gallant roi stop ar y trais a gwneud i’r berthynas weithio.
    Nid yw llawer o ddioddefwyr yn sylweddoli pa mor gyffredin yw trais a chamdriniaeth yn y cartref, gan feddwl mai nhw yn unig sy’n ei ddioddef.
    Gall rai neu bob un o’r rhesymau hyn wneud i nifer o ddioddefwyr gredu nad oes unrhyw ffordd o ddianc oddi wrth berthynas lle maent yn cael eu cam-drin. Yn wir, mae llawer ohonynt yn credu y byddai’n well iddynt aros gyda’u partner a dioddef y gamdriniaeth.
    Os ydych chi’n dioddef o gamdriniaeth yn y cartref neu drais rhywiol, a’ch bod chi angen cymorth a gwybodaeth am eich opsiynau, cysylltwch â Llinell Gymorth Camdriniaeth yn y Cartref a Thrais Rhywiol Cymru Gyfan nawr.


  3. A oes gwahanol fathau o gamdriniaeth?

    Mae nifer o wahanol fathau o gamdriniaeth yn y cartref, ond maent oll yn perthyn i 4 categori yn bennaf, sef:

 

  1. O ble alla’i gael cymorth neu gefnogaeth?

    Mae camdriniaeth yn y cartref a thrais yn codi ofn ar unigolion a phlant ac yn gwneud iddynt deimlo nad oes ganddynt unrhyw rym, ac nid oes unrhyw un yn dymuno byw mewn ofn.

    Llinell Gymorth Camdriniaeth yn y Cartref a Thrais Rhywiol Cymru Gyfan
    Y rhif ar gyfer Llinell Gymorth Camdriniaeth yn y Cartref a Thrais Rhywiol Cymru Gyfan yw 0808 80 10 800, ac mae’r Llinell ar agor 24 awr y dydd. Mae’r Llinell ar gael i unrhyw un sy’n dioddef, neu wedi dioddef, camdriniaeth yn y cartref, neu i unrhyw un sy’n poeni bod camdriniaeth yn y cartref yn digwydd i ffrind, berthynas neu gydweithiwr. Nid yw’n costio ceiniog i ffonio’r Llinell Gymorth ac mae hi’n gwbl gyfrinachol ac ni fydd y rhif yn dangos ar filiau ffôn tir.

    Ffoniwch 999 bob tro mewn argyfwng.

  1. Sut alla’i helpu ffrind?

    Os yw eich ffrind yn agored gyda chi ac yn cydnabod eu bod yn cael eu cam-drin, mae hyn yn arwydd cadarnhaol. Ceisiwch gadw mewn cysylltiad â nhw fel nad ydynt yn ymbellhau. Mae hyn yn gallu bod yn beryglus iawn mewn sefyllfa o’r fath.
    Byddwch yn gefnogol a pheidiwch â dweud wrthynt beth i’w wneud. Bydd angen iddyn nhw wneud y penderfyniad am adael y berthynas a gall hyn gymryd sawl cais cyn eu bod yn gadael am byth.
    Efallai eu bod yn teimlo cywilydd am yr hyn sy’n digwydd a theimlo mai nhw sydd ar fai. Yn aml, bydd y sawl sy’n eu cam-drin yn dweud wrthynt mai eu bai nhw yw’r cyfan. Cyfrifoldeb y sawl sy’n cam-drin yw camdriniaeth yn y cartref bob tro. Nid oes unrhyw beth yn gwneud camdriniaeth yn dderbyniol. Nid oes unrhyw esgus dros gam-drin ac fel arfer, mae’n gwaethygu dros amser.
    Trafodwch y sefyllfa a cheisiwch beidio â’u barnu os nad ydynt yn barod i wneud unrhyw beth eto. Un o’r pethau gorau allwch chi ei wneud yw eu cyfeirio at rywun a all roi cymorth iddynt. Os ydych chi’n gallu bod yna i’w cefnogi, mae hyn yn wych, ond bydd hefyd yn helpu’r ddau ohonoch chi os ydych chi’n cysylltu â Llinell Gymorth Camdriniaeth yn y Cartref a Thrais Rhywiol Cymru Gyfan i gael cefnogaeth ymarferol ac emosiynol.
    Os ydynt yn dymuno gadael y berthynas, gallant feddwl am geisio lloches ar frys. Mae opsiynau cyfreithiol y gallant eu hystyried hefyd megis gwaharddebau (injunctions) yn erbyn eu partner, neu gysylltu â’r Heddlu. Gallant hefyd gysylltu â Llinell Gymorth Camdriniaeth yn y Cartref a Thrais Rhywiol Cymru Gyfan am gymorth, p’un a ydynt am adael y berthynas neu aros.


  1. Beth sy’n achosi camdriniaeth?

    Mae’r bobl sy’n cam-drin yn dewis ymddwyn yn dreisgar er mwyn cael eu ffordd eu hunain a chael rheolaeth. Yn aml, maent yn credu fod ganddynt yr hawl i wneud y pethau hyn ac yn aml, mae eu ffordd o feddwl yn cael ei gefnogi gan agweddau rhywiaethol, hiliol, homoffobig ac agweddau gwahaniaethol eraill.
    Caiff camdriniaeth yn y cartref ei 'achosi' gan rywun sy’n camddefnyddio pŵer a rheolaeth.
    Mae’r rheiny sy’n cam-drin yn y cartref (boed yn ddyn neu’n fenyw) yn dewis ymddwyn yn y modd hwn er mwyn cael eu ffordd eu hunain a chael rheolaeth. Yn aml, maent yn credu fod ganddynt yr hawl i wneud y pethau hyn ac yn aml, mae eu ffordd o feddwl yn cael ei gefnogi gan agweddau rhywiaethol, hiliol, homoffobig ac agweddau gwahaniaethol eraill.

    Beth am ffactorau eraill a allai achosi camdriniaeth yn y cartref e.e. straen?

    Mae camdriniaeth yn y cartref yn ymddygiad dysgedig; nid yw’n ganlyniad i straen neu batholeg unigolyn, camddefnyddio sylweddau nac ychwaith yr hyn y cyfeirir ato fel perthynas ‘camweithredol’ (dysfunctional).
    Yn aml, bydd unigolion sy’n cam-drin yn osgoi cymryd cyfrifoldeb am eu hymddygiad, gan roi’r bai ar rywun neu rywbeth arall, gwadu ei fod wedi digwydd neu leihau pa mor ddifrifol yw ei hymddygiad.
    Er mai bai'r sawl sy’n cam-drin yn unig yw’r trais ei hun, mae credoau o fewn ein cymdeithas sy’n annog yr agweddau annymunol hyn ac yn ei gwneud yn anodd i ddynion, menywod a phlant geisio cymorth.

    Yn aml, bydd troseddwyr yn ceisio cyfiawnhau neu anwybyddu eu hymddygiad drwy:
  • Leihau difrifoldeb y trais e.e. dweud mai “dim ond slap oedd e’” neu “dyw e’ ddim mor ddrwg â hynny”.
  • Cyfiawnhau'r ymddygiad i’w hunain a rhoi’r bai ar y sawl sy’n dioddef.
  • Gwadu bod y trais wedi digwydd neu wrthod siarad am y peth a disgwyl i’r dioddefwr "symud ymlaen" (Dobash a Dobash, 2000).

    A yw alcohol neu gyffuriau yn gallu achosi trais yn y cartref?

    Nid yw defnyddio (neu gamddefnyddio) sylweddau yn achosi trais yn y cartref. Mae llawer o bobl sy’n yfed gormod neu’n cymryd cyffuriau nad ydynt yn cam-drin eu partner neu berthynas. Yn yr un modd, gall y rheiny sy’n cam-drin fod yn dreisgar heb alcohol neu gyffuriau.
    Efallai y bydd unigolion sy’n cam-drin yn defnyddio alcohol neu gyffuriau fel esgus am eu hymddygiad gan ddweud pethau megis "Ron i wedi meddwi" neu "Dwi ddim yn cofio". Hyd yn oed os nad ydynt yn cofio, nid yw’n golygu nad ydynt yn gyfrifol am eu hymddygiad.
    Weithiau, mae unigolion sy’n dioddef trais yn y cartref yn troi at alcohol neu gyffuriau i ddianc rhag y trais, gan gredu mai dyma’r unig beth y maent yn gallu ei reoli. Yn aml, bydd y rheiny sy’n cam-drin yn defnyddio hyn fel esgus am eu hymddygiad treisgar, gan ddweud bod eu partner wedi’u cythruddo. Mae unigolion sy’n cam-drin yn defnyddio esgusodion fel y rhain i gyfyngu neu gael gwared ar y bai oddi ar eu hunain a’i roi ar eu partner/teulu.

  • Dangosodd astudiaeth o 336 o droseddwyr a oedd wedi’u collfarnu am drais yn y cartref bod alcohol wedi chwarae rhan mewn 62% o droseddau a bod 48% o droseddwyr yn ddibynnol ar alcohol (Gilchrist et al, 2003).
  • Dangosodd un astudiaeth o 60 o fenywod a oedd yn defnyddio crac cocên yn Llundain bod 40% wedi nodi ymosodiadau corfforol rheolaidd gan eu partner presennol. Roedd hyn yn cynyddu i 70% wrth gyfrif cynbartneriaid hefyd. (Bury et al, 1999).

    A gaiff camdriniaeth yn y cartref ei achosi gan ddiffyg rheolaeth?
    Mae trais yn y cartref yn ymwneud ag ennill pŵer a rheolaeth, yn hytrach na diffyg rheolaeth. Os yw unigolyn sy’n cam-drin yn ofalus o ran pryd, ble a phwy y maent yn eu cam-drin, mae hyn yn dangos eu bod yn ymwybodol o’u gweithredoedd sy’n awgrymu nad ydynt 'allan o reolaeth'. Mae pobl sy’n cam-drin yn defnyddio trais a thactegau gorfodi fel dulliau o reoli a chael eu ffordd eu hunain.
    A gaiff camdriniaeth yn y cartref ei achosi gan salwch meddwl?
    Nid yw’r rhan fwyaf o bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl yn cam-drin eraill. Fodd bynnag, mae nifer bach o bobl sydd mewn trallod meddwl a allai ymddwyn yn ymosodol, er mai’n bosibl nad y broblem iechyd meddwl ei hun sy’n achosi hyn.

    Os yw’r person sy’n cam-drin yn ofalus o ran pryd, ble a phwy y maent yn eu cam-drin, mae hyn yn dangos eu bod yn ymwybodol o’u gweithredoedd sy’n awgrymu eu bod yn dewis ymddwyn mewn ffordd benodol.

    Os nad oes patrwm i weithredoedd y person sy’n cam-drin a bod ei ymddygiad yn anrhagweladwy, os yw’n ymddwyn yn ymosodol tuag at ddieithriaid yn ogystal â’r bobl y mae yn ei adnabod (e.e. yn gyhoeddus ac yn y gwaith), mae’n bosibl mai salwch meddwl sydd ar fai. Hyd yn oed os yw hyn yn wir, nid yw’n golygu bod yr ymddygiad yn dderbyniol. Mewn sefyllfaoedd o’r fath, mae’n bwysig bod eich diogelwch chi a’ch plant yn flaenoriaeth a bod y person sy’n dioddef trallod meddwl yn cael y gofal proffesiynol sydd ei angen arnynt.
  • Mae gwaith ymchwil yn awgrymu bod problemau iechyd meddwl yn fwy tebygol o fod yn ganlyniad i drais yn y cartref yn hytrach na’r hyn sy’n ei achosi. Mae salwch meddwl yn uwch mewn menywod sydd wedi dioddef camdriniaeth: mae 64% yn dioddef anhwylder straen wedi trawma, mae 48% yn dioddef o iselder ac mae 18% yn ceisio, neu yn llwyddo, i ladd eu hunain.

  1. Beth alla’i wneud os nad ydw i’n gallu byw gartref rhagor o achos camdriniaeth yn y cartref?

    Os ydych chi’n dioddef o gamdriniaeth yn y cartref, gall grwpiau lleol yng Nghymru gynnig lloches i chi (a’ch plant os oes gennych chi rai) os ydych chi’n teimlo nad ydych chi’n gallu byw gartref bellach.
    Chwiliwch am wybodaeth am yr opsiynau sydd ar gael i chi, megis lle diogel i aros dros-dro, drwy gysylltu â Llinell Gymorth Camdriniaeth yn y Cartref a Thrais Rhywiol Cymru Gyfan ar rhadffôn 0808 80 10 800.

    Os nad ydych chi’n dymuno aros mewn lloches, mae’n bosibl bod cymorth o fath arall ar gael i chi o fewn y gymuned – yn aml caiff hyn ei alw’n ‘allgymorth’ neu gymorth ‘fel y bo'r angen’.
    At hynny, mae gan lawer o grwpiau ganolfannau gwybodaeth lle allwch chi alw heibio a chael sgwrs gyda phobl o’r grŵp am eich sefyllfa chi neu rywun yr ydych chi’n ei adnabod.

  1. Beth os oes gennyf anabledd?

    Mae llawer o’n grwpiau aelod yn darparu gwasanaethau ar gyfer dynion, menywod a phlant sydd ag amrywiaeth o anghenion cymorth.
    Mae gan ein grwpiau aelod lochesau gyda mynediad llawn neu rannol ar gyfer cadeiriau olwyn. Mae’r un peth hefyd yn wir am nifer o’r canolfannau galw heibio y mae ein grwpiau yn eu darparu. Gall rhai grwpiau aelod hefyd gynnig gwasanaethau dehongli BSL, yn ogystal â mynediad at weithiwr BSL.
    Cyn belled â bod gwasanaeth addas ar gael, bydd dynion, menywod, plant a phobl ifanc oll yn gallu cael mynediad at lochesau neu wasanaethau cymorth cymunedol.
    I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Llinell Gymorth Camdriniaeth yn y Cartref a Thrais Rhywiol Cymru Gyfan ar 0808 80 10 800.

  1. Beth alla’i wneud am gamdriniaeth gan bartner o’r un rhyw?

    Rydym ni’n cydnabod bod camdriniaeth yn y cartref yn gallu digwydd mewn cyplau o’r un rhyw, yn ogystal â chyplau heterorywiol.
    Os ydych chi’ n dioddef o gamdriniaeth yn y cartref drwy law eich partner, ffoniwch Llinell Gymorth Camdriniaeth yn y Cartref a Thrais Rhywiol Cymru Gyfan ar rhadffôn 0808 80 10 800. Bydd eich galwad yn cael ei thrin yn gyfrinachol, ac ni fydd y rhif yn dangos ar filiau ffôn tir.
    Gall Llinell Gymorth Camdriniaeth yn y Cartref a Thrais Rhywiol Cymru Gyfan roi gwybodaeth i chi a’ch cyfeirio at yr asiantaethau sy’n berthnasol i’ch sefyllfa.
    Nid oes unrhyw esgus am gamdriniaeth yn y cartref ac mae gan bawb yr hawl i fyw bywyd heb orfod ofni camdriniaeth yn y cartref.
  • Beth ddylwn i ei wneud os ydw i wedi dioddef ymosodiad rhywiol?

    I gael cymorth a gwybodaeth yn syth, ffoniwch Llinell Gymorth Camdriniaeth yn y Cartref a Thrais Rhywiol Cymru Gyfan ar 0808 80 10 800.
  • Ceisiwch roi gwybod i’r Heddlu am y digwyddiad cyn gynted â phosibl (os mai dyna’ch dewis chi). Gall hyn helpu i ddal y troseddwr yn gyflym. Yn ddelfrydol, mae angen casglu tystiolaeth feddygol o fewn 72 awr i’r ymosodiad.
  • Peidiwch â golchi eich wyneb, corff, gwallt na ddannedd, a pheidiwch â chael cawod cyn cael archwiliad meddygol. Gall y pethau hyn ddinistrio tystiolaeth hanfodol os ydych chi’n penderfynu hysbysu’r Heddlu am y digwyddiad.
  • Os ydych chi wedi golchi’ch dannedd, mae’n bosibl y bydd olion DNA ar y brwsh, felly cadwch y brwsh mewn bag wedi’i selio, mewn lle oer, hyd nes y byddwch yn ei roi i’r Heddlu neu hyd nes iddo gael ei ddinistrio.
  • Peidiwch â golchi’r dillad yr oeddech yn eu gwisgo. Yn hytrach, dylech eu selio mewn bag papur brown neu, os ydynt yn wlyb, mewn bag plastig, a’u cadw mewn lle oer, rhewgell os yn bosibl.
  • Dylid selio unrhyw dywelion, cynfasau gwely neu flancedi a’u cadw mewn lle oer.
  • Dylid cadw unrhyw arf a ddefnyddiwyd yn yr ymosodiad a’i roi i’r Heddlu.
  • Dylech gasglu unrhyw boteli, caniau, gwydrau, cyllyll, ffyrc neu unrhyw wrthrychau eraill a allai fod wedi dod i gysylltiad â’r troseddwr, yn arbennig os yw’r gwrthrych wedi dod i gysylltiad â’r geg e.e. cwpan neu wydr. Eto, dylid storio’r pethau hyn mewn bag papur brown neu blastig a’u rhoi mewn lle oer.
  • Ceisiwch beidio ag yfed unrhyw alcohol na chymryd unrhyw gyffuriau gan y gallai hyn leihau eich hygrededd.
  • Eich dewis chi yw p’un a ydych chi am adrodd y digwyddiad i’r Heddlu ai peidio. Gallwch ddewis cael archwiliad meddygol fforensig heb orfod adrodd y mater i’r Heddlu.


  1. Faint o bobl sy’n ceisio lloches / defnyddio gwasanaethau cam-drin bob blwyddyn?

    Mae Llinell Gymorth Camdriniaeth yn y Cartref a Thrais Rhywiol Cymru Gyfan wedi derbyn dros 215,000 o alwadau ers mynd yn fyw yn 2004.
    Rhwng mis Ebrill a mis Medi 2011:
    Derbyniodd y Llinell Gymorth 13,656 o alwadau.
    Roedd 1,903 o’r bobl a oedd yn galw yn ceisio lloches ar frys.
    Yn ystod yr un cyfnod, cyfeiriwyd 4,588 o bobl at wasanaethau arbenigol eraill am gymorth ychwanegol.
    Roedd 3,438 o’r bobl a oedd yn galw yn chwilio am rywun i wrando arnynt ac i gynnig cymorth.
    Ar ddydd San Ffolant 2011, roedd sefydliadau camdriniaeth yn y cartref yng Nghymru yn cefnogi 1,950 o fenywod a 1,658 o blant a phobl ifanc *.
    * Cymorth i Ferched Cymru (2011), Ciplun o Wasanaethau ar Ddydd San Ffolant (Valentine’s Day Services Snapshot). Mae’r ystadegau hyn yn cynnwys ffigurau gan Gymorth i Ferched Cymru, Gwasanaethau Menywod ‘Llamau’, Hafan Cymru a Chanolfan Argyfwng Teulu Sir Drefaldwyn.


  1. Nid wyf fi’n dymuno aros mewn lloches. Sut alla’i ddiogelu fy hun?

    Mae llawer o bobl sy’n dioddef o gamdriniaeth yn y cartref yn gyndyn o ddod â’u perthynas i ben neu adael eu cartref teuluol. Eich dewis chi yw hyn.
    Os ydych chi’n bwriadu aros gyda’ch partner, neu yn eich cartref eich hun, dylech ystyried sut y gallwch chi wella eich diogelwch, p’un a ydych chi dal i fyw gyda’ch partner ai peidio.
    Gall Llinell Gymorth Camdriniaeth yn y Cartref a Thrais Rhywiol Cymru Gyfan eich helpu i asesu eich lefelau diogelwch eich hun, yn seiliedig ar yr wybodaeth a ddarperir gennych. Gallant roi gwybodaeth i chi am gynllunio diogelwch, a gallant eich cyfeirio at asiantaethau eraill a all eich helpu i wella eich diogelwch.
    Fel arall, cymerwch gip ar adrannau ‘Cynllunio Diogelwch’ y wefan hon i gael awgrymiadau a chanllawiau ar y pethau gorau i’w gwneud:

    Cynllunio Diogelwch ar gyfer Menywod
    Cynllunio Diogelwch ar gyfer Dynion
    Cynllunio Diogelwch ar gyfer Plant


  1. Beth yw lloches?

    Mae llochesau yn fannau diogel a chyfrinachol i aros dros-dro ar gyfer dynion, menywod a phlant sy’n dioddef, neu wedi dioddef, camdriniaeth yn y cartref.
    Mae llochesau ar gael ledled Cymru ac os ydych chi angen gwybodaeth amdanynt, gall Llinell Gymorth Camdriniaeth yn y Cartref a Thrais Rhywiol Cymru Gyfan eich helpu chi.


  1. Pa gymorth cyfreithiol sydd ar gael i mi?

    Os ydych chi’n dioddef o gamdriniaeth yn y cartref drwy law eich partner neu gyn-bartner, mae gennych yr hawl i gael eich gwarchod gan y gyfraith. Dyma rai o’r opsiynau cyfreithiol sydd ar gael i chi:
  • Mae gennych hawliau o dan y gyfraith trosedd. Mae ymosodiadau drwy law rhywun yr ydych yn ei adnabod neu’n cyd-fyw â nhw llawn cymaint o drosedd â chael eich cam-drin gan ddieithryn, ac yn aml yn fwy peryglus. Gallwch alw’r heddlu ac mae dyletswydd arnynt i’ch diogelu ac i ymchwilio i’r mater. Dylent eich cymryd o ddifrif ac arestio’r unigolyn sy’n eich cam-drin os oes tystiolaeth.
  • Gallwch wneud cais am orchymyn llys sifil sy’n gorchymyn y sawl sy’n eich cam-drin i roi’r gorau i’ch brifo chi neu aflonyddu arnoch chi, neu i gadw allan neu draw o’ch cartref. Ffoniwch y llinell Cyngor Cyfreithiol Cymunedol i geisio gwasanaeth amddiffyn sifil.
  • Mae’r gyfraith hefyd yn gymorth i ddiogelu plant. Gallwch wneud cais ger bron y Llysoedd Teulu am orchymyn sy’n nodi’n benodol ble a chyda phwy y dylai plant fyw, a rheoleiddio cyswllt gyda’r rhiant arall.

    I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch Llinell Gymorth Camdriniaeth yn y Cartref a Thrais Rhywiol Cymru Gyfan.


  1. Rwy’n perthyn i gymuned BME. Pa help sydd ar gael i mi?

    Mae nifer o wasanaethau arbenigol ar gael i fenywod o gymunedau BME (Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig) sy’n dioddef o gamdriniaeth yn y cartref.
    I gael rhagor o wybodaeth am y gwasanaethau hyn, gallwch gysylltu â’r asiantaethau yn uniongyrchol neu ffoniwch Llinell Gymorth Camdriniaeth yn y Cartref a Thrais Rhywiol Cymru Gyfan a fydd yn gallu eich cyfeirio at y gwasanaethau hyn a rhoi rhagor o wybodaeth i chi.
  1. Ydw I mewn risg?
 

©2011 All Wales Domestic Abuse and Sexual Violence Helpline. All rights reserved. The Helpline is managed by Welsh Women's Aid - registered under the Industrial and Provident Societies Act 1955 No. 23753R Welsh Women's Aid is an exempt charity. Registered charity number 1140962.