Adnabod trais rhywiol

Os ydych chi’n credu eich bod chi neu blentyn arall mewn perygl, ffoniwch yr Heddlu ar 999.

Pan fo rhywun yn gwneud i blentyn gymryd rhan mewn gweithgarwch rhywiol drwy ddefnyddio’u pŵer drostynt neu drwy fanteisio ar yr ymddiriedaeth sydd gan y plentyn ynddynt, caiff hyn ei alw’n drais rhywiol a gall gynnwys;

  • Cael eich cyffwrdd mewn ffordd nad ydych yn ei hoffi heb eich caniatâd
  • Cael eich gorfodi i gael rhyw
  • Cael eich gorfodi i wylio rhywun yn gwneud rhywbeth rhywiol  – gall hyn gynnwys rhywun yn dangos eu hunain i chi
  • Gwneud i chi wylio pornograffi
  • Cael eich gorfodi i wneud rhywbeth rhywiol i rywun, gan wneud i chi deimlo’n anghyfforddus

Waeth beth mae rhywun wedi dweud wrthych chi, os yw hyn yn digwydd i chi, nid chi sydd ar fai. Nid oes gan unrhyw un yr hawl i wneud pethau i chi nad ydych chi’n eu hoffi, hyd yn oed eich cariad. Bydd gofyn i chi fod yn ddewr, ond os ydych chi’n gallu siarad am y peth, mae pobl yno i wrando arnoch chi a’ch helpu.

Does dim ots pwy yw’r person sy’n gwneud y pethau hyn i chi, camdriniaeth rywiol yw hyn. Mae yn bosibl i rywun yr ydych yn ei adnabod ac yn ei garu eich cam-drin yn rhywiol. Nid yw hyn yn golygu bod y pethau y maent yn eu gwneud yn dderbyniol.

Ffoniwch Linell Gymorth Camdriniaeth yn y Cartref a Thrais Rhywiol Cymru Gyfan i gael rhagor o wybodaeth am drais rhywiol ar 0808 80 10 800.

Mae bron i 1 ym mhob 3 merch yn y DU wedi cael ei chyffwrdd yn rhywiol yn yr ysgol yn erbyn ei hewyllys.

 

©2011 All Wales Domestic Abuse and Sexual Violence Helpline. All rights reserved. The Helpline is managed by Welsh Women's Aid - registered under the Industrial and Provident Societies Act 1955 No. 23753R Welsh Women's Aid is an exempt charity. Registered charity number 1140962.