Trais rhywiol |
|
Camdriniaeth rywiol yw pan fo plentyn neu berson ifanc yn cael ei roi dan bwysau, ei orfodi neu ei dwyllo i gymryd rhan mewn gweithgareddau rhywiol o unrhyw fath gydag oedolyn neu berson ifanc arall. Gall hyn gynnwys cusanu, cyffwrdd ag organau cenhedlu (rhannau preifat) rhywun neu eu bronnau, cael rhyw neu ryw geneuol (oral sex). Gall ddigwydd i unrhyw un – yn fachgen neu’n ferch. Os ydych chi’n cael eich cam-drin yn rhywiol, nid chi sydd ar fai a dydych chi ddim ar eich pen eich hun. Gall unrhyw un gam-drin rhywun arall yn rhywiol, ond mae’n fwy tebygol eich bod yn cael eich cam-drin yn rhywiol gan rywun yr ydych yn ei adnabod. Mae’n bosibl y bydd y sawl sydd yn eich cam-drin yn rhywun yr ydych yn ei garu ac yn ymddiried ynddynt, fel perthynas. Gall dyn neu fenyw, hen neu ifanc, gam-drin rhywun arall yn rhywiol. Nid yw camdriniaeth rywiol yn cael ei thrafod yn aml, ond mae’n fwy cyffredin nag y byddech yn ei feddwl. Mae camdriniaeth rywiol gan unrhyw un, boed yn ddyn neu’n fenyw, yn annerbyniol, ac os yw’n digwydd i chi, gall Llinell Gymorth Camdriniaeth yn y Cartref a Thrais Rhywiol Cymru Gyfan eich helpu. Ffoniwch ni ar 0808 80 10 800. Mae 33% o ferched 13 – 17 oed sydd mewn perthynas rywiol â phartner wedi dioddef rhyw fath o drais rhywiol wrth law eu partner. |