A yw un o’ch ffrindiau yn cael ei gam-drin yn y cartref? |
|
Os yw un o’ch ffrindiau yn dweud wrthych chi eu bod yn cael eu cam-drin, y peth pwysicaf y gallwch chi ei wneud i’w helpu yw credu’r hyn y maent yn ei ddweud. Rhowch wybod iddynt eich bod chi yn gefn iddynt ac yn barod i siarad. Efallai na fyddant am siarad am y peth gan eu bod yn ofni’r hyn a allai ddigwydd pe byddent yn dweud wrth rywun. Os ydynt wedi dweud wrthych chi am yr hyn sy’n digwydd iddynt, gallech eu hannog i siarad gydag oedolyn y maent yn ymddiried ynddo am y peth. Gwnewch yn siŵr eu bod yn gwybod eich bod chi yno’n gefn iddynt a’u bod yn gallu siarad gyda chi amdano. Mae’n gallu bod yn anodd sôn am y peth gan nad ydym yn gyfarwydd â siarad am gamdriniaeth yn y cartref. Efallai y byddwch yn poeni na fydd eich ffrind yn hapus eich bod chi’n siarad am y peth neu’n teimlo’n amddiffynnol neu’n teimlo cywilydd. Mae Llinell Gymorth Camdriniaeth yn y Cartref a Thrais Rhywiol Cymru Gyfan yma i chi ac i’ch ffrind, a gallwch ei ffonio yn rhad ac am ddim ar 0808 80 10 100 oddi ar ffôn tir. |