Ydych chi’n cael eich cam-drin yn y cartref?

Weithiau, gallwch gael eich niweidio neu eich bwlio yn eich cartref, ac NID yw hyn yn dderbyniol. Yr enw ar hyn yw camdriniaeth yn y cartref ac mae’n bosibl ei fod yn anghyfreithlon.

Gall cam-drin gynnwys y canlynol:

  • Pobl wrthi’n aml yn dadlau, yn gweiddi ac yn rhegi yn y cartref
  • Rhywun yn eich bygwth chi, aelod o’ch teulu chi neu eich anifeiliaid anwes
  • Rhywun yn galw enwau cas arnoch chi
  • Rhywun yn gwrthod gadael i chi fynd allan a’ch cadw chi oddi wrth eich ffrindiau
  • Rhywun yn gwrthod gadael i chi gael bwyd neu ddiod neu fynd i’r toiled pan fo
  • Rhywun yn malu pethau
  • Rhywun yn gwneud i chi wneud pethau nad ydych chi am eu gwneud
  • Rhywun yn cyffwrdd â chi neu’n eich gorfodi i gyffwrdd â rhywun
  • Rhywun yn eich taro neu yn eich brifo

Felly COFIWCH, gall rhywun fod yn eich cam-drin heb eich taro neu eich cicio. Weithiau, os bydd rhywun yn galw enwau arnoch chi, gall fod cynddrwg â phe baent yn eich brifo’n gorfforol.

 

©2011 All Wales Domestic Abuse and Sexual Violence Helpline. All rights reserved. The Helpline is managed by Welsh Women's Aid - registered under the Industrial and Provident Societies Act 1955 No. 23753R Welsh Women's Aid is an exempt charity. Registered charity number 1140962.