Adnabod camdriniaeth yn y cartref

Pan fo rhywun yn eich cartref neu eich teulu yn bod yn gas i chi, neu i rywun arall yn eich cartref, yr enw ar hyn yw Camdriniaeth yn y Cartref, AC NID YW HYN YN DDERBYNIOL.

Gall camdriniaeth ddigwydd y tu allan i’r cartref hefyd, os bydd rhywun yn eich gorfodi i wneud pethau nad ydych am eu gwneud, fel cyffwrdd â chi neu eich gorfodi chi i gyffwrdd â nhw.

Gall camdriniaeth ddigwydd i bobl o bob oed. Mae’n effeithio ar bobl waeth beth yw eu cefndir, eu crefydd neu eu swydd. Gall dynion a menywod gam-drin.

 

©2011 All Wales Domestic Abuse and Sexual Violence Helpline. All rights reserved. The Helpline is managed by Welsh Women's Aid - registered under the Industrial and Provident Societies Act 1955 No. 23753R Welsh Women's Aid is an exempt charity. Registered charity number 1140962.