Plant / Pobl Ifanc |
|
Bydd adegau ym mhob teulu pan fydd pobl yn teimlo’n flin ac yn dadlau â’i gilydd. Mae’n iawn i anghytuno â’ch gilydd a chael gwahanol syniadau a safbwyntiau. Mewn dadl deg, dylai pawb deimlo eu bod wedi cael cyfle i ddweud eu dweud a bod pobl wedi gwrando arnynt. Ni ddylai neb wneud i chi deimlo’n ofnus neu’n dwp, yn enwedig yn eich cartref eich hun. Os oes gennych berthynas gadarnhaol, gallwch gymodi ar ôl i chi dawelu, drwy drafod gyda’ch gilydd a chladdu asgwrn y gynnen. Efallai y byddwch chi’n teimlo’n unig ac efallai y bydd gennych chi gywilydd o’r hyn sy’n digwydd yn eich teulu. Efallai y byddwch yn teimlo y dylech wneud mwy i helpu. Mae’n arferol i chi deimlo fel hyn ond mae’n bwysig cofio nad chi sydd ar fai. Mae gennym ni gyd yr hawl i deimlo’n ddiogel, i gael dweud ein dweud ac i gael ein parchu. Mae gennych hawliau o dan Erthygl 19 Confensiwn y Cenhedloedd Unedig, i gael eich diogelu rhag niwed neu gael eich trin yn wael. |