Beth i’w wneud nesaf |
|
I gael gwybodaeth a chefnogaeth ar unwaith, ffoniwch Linell Gymorth Camdriniaeth yn y Cartref a Thrais Rhywiol Cymru Gyfan ar 0808 80 10 800. Os ydych chi wedi dioddef ymosodiad rhywiol: Ceisiwch roi gwybod i’r Heddlu am y digwyddiad cyn gynted â phosibl (os mai dyna’ch dewis chi). Gall hyn helpu i ddal y troseddwr yn gyflym. Yn ddelfrydol, mae angen casglu tystiolaeth feddygol o fewn 72 awr i’r ymosodiad. Peidiwch â golchi eich wyneb, corff, gwallt na ddannedd, a pheidiwch â chael cawod cyn cael archwiliad meddygol. Gall y pethau hyn ddinistrio tystiolaeth hanfodol os ydych chi’n penderfynu hysbysu’r Heddlu am y digwyddiad. Os ydych chi wedi golchi’ch dannedd, mae’n bosibl y bydd olion DNA ar y brwsh, felly cadwch y brwsh mewn bag wedi’i selio, mewn lle oer, hyd nes y byddwch yn ei roi i’r Heddlu neu hyd nes iddo gael ei ddinistrio. Peidiwch â golchi’r dillad yr oeddech yn eu gwisgo. Yn hytrach, dylech eu selio mewn bag papur brown neu, os ydynt yn wlyb, mewn bag plastig, a’u cadw mewn lle oer, rhewgell os yn bosibl. Dylid selio unrhyw dywelion, cynfasau gwely neu flancedi a’u cadw mewn lle oer. Dylid cadw unrhyw arf a ddefnyddiwyd yn yr ymosodiad a’i roi i’r Heddlu. Dylech gasglu unrhyw boteli, caniau, gwydrau, cyllyll, ffyrc neu unrhyw wrthrychau eraill a allai fod wedi dod i gysylltiad â’r troseddwr, yn arbennig os yw’r gwrthrych wedi dod i gysylltiad â’r geg e.e. cwpan neu wydr. Eto, dylid storio’r pethau hyn mewn bag papur brown neu blastig a’u rhoi mewn lle oer. Ceisiwch beidio ag yfed unrhyw alcohol na chymryd unrhyw gyffuriau gan y gallai hyn leihau eich hygrededd. Eich dewis chi yw p’un a ydych chi am adrodd y digwyddiad i’r Heddlu ai peidio. Gallwch ddewis cael archwiliad meddygol fforensig heb orfod adrodd y mater i’r Heddlu. Cofnododd Heddlu Cymru 2367 o droseddau rhywiol yn 2010 – sef cynnydd o 3% o gymharu â 2009. |