Cynllunio diogelwch

Ffoniwch Llinell Gymorth Camdriniaeth yn y Cartref a Thrais Rhywiol Cymru Gyfan

Siaradwch â rhywun ar ein llinell gymorth gyfrinachol, gallwn ni ddarparu gwybodaeth a chyngor i ddangos y ffordd i chi a rhoi gwybod i chi sut i gael mynediad at gymorth arbenigol. Gallwch ein ffonio ar 0808 80 10 800, unrhyw adeg o’r dydd.

Lleihau’r perygl i chi

Os ydych chi’n dioddef o drais yn y cartref, bydd angen i chi ystyried sut i leihau’r risg i’ch hunan gan yr unigolyn sy’n eich cam-drin. Rydym yn argymell eich bod yn llunio cynllun diogelwch. Bydd hyn yn eich helpu i baratoi ymlaen llaw ar gyfer amseroedd pan allech fod mewn perygl neu’n cael eich cam-drin yn gorfforol neu ar lafar.

  • Ewch ati i gadw cofnod o ddyddiadau ac amseroedd pob digwyddiad. Os ydych chi wedi cael anaf, ewch i gael cymorth yn yr Uned Damweiniau ac Achosion Brys neu gan eich meddyg teulu, a byddant yn cofnodi eich anafiadau.
  • Cofiwch wneud yn siŵr bod batri eich ffôn yn llawn, bod digon o gredyd ynddo a’i fod arnoch chi ar bob adeg – rhag ofn bod gofyn i chi wneud galwadau brys.
  • Dywedwch wrth ffrind neu berthynas beth sydd wedi bod yn digwydd.
  • Cofiwch gadw eich pasbort a chopïau o ddogfennau pwysig mewn lle diogel (gyda ffrind neu berthynas).
  • Beth am roi gwybod i’ch cyflogwr am eich sefyllfa?
  • Cofiwch roi gwybod i’r Heddlu bob tro am unrhyw drais neu ddifrod troseddol.

Peidiwch â cheisio dial – nid yw’n ddiogel i chi wneud hynny

Mae’n bwysig nad ydych chi’n ceisio dial gan ei fod yn debygol o wneud pethau’n waeth a gall rhywun gael eu hanafu’n ddifrifol o ganlyniad.

Ceisiwch adael y sefyllfa pan ydych chi’n adnabod yr arwyddion ac yn teimlo y gall eich partner droi’n ymosodol neu’n dreisgar tuag atoch chi.

Os ydych chi’n ceisio dial a bod yr Heddlu yn cael eu galw, mae’n bosibl y byddant yn ystyried mai chi yw’r un sy’n cam-drin a gallant eich arestio a dwyn cyhuddiad yn eich erbyn, yn arbennig os ydych chi’n anafu eich partner wrth ddial.

Ffoniwch yr Heddlu

Mae dynion sy’n cael eu cam-drin yn y cartref yn aml yn dweud nad oes diben iddynt ffonio’r Heddlu neu ddweud wrth unrhyw un eu bod yn cael eu cam-drin. Mae rhai yn meddwl na fydd pobl yn eu credu, ac y bydd pobl yn credu eu bod yn ‘wan’ neu nad ydynt yn ‘ddynion go iawn’ os ydynt yn datgelu’r trais a’r gamdriniaeth y maent yn eu dioddef drwy law eu partner. Mewn gwirionedd, mae’n cymryd peth cryfder a hunanreolaeth i oddef camdriniaeth hirdymor ac mae’n cymryd person dewr iawn i geisio cymorth. Dylai’r Heddlu gymryd eich honiadau o ddifrif ac mae gennych yr un hawl i gael eich diogelu rhag niwed â menyw.

  • Dywedwch wrth yr Heddlu am y trais. Nid oes yn rhaid i chi ddwyn cyhuddiad yn erbyn rhywun ond fe allai fod o gymorth gydag unrhyw ddigwyddiadau yn y dyfodol a gall helpu i adeiladu achos yn erbyn y sawl sy’n eich cam-drin os ydych chi’n penderfynu dwyn cyhuddiad yn ddiweddarach.
  • Cysylltwch â’ch Uned Diogelwch Cymunedol leol neu’r Uned Trais yn y Cartref (dylai fod gan bob Gorsaf Heddlu un o’r rhain neu dylent allu eich cyfeirio at yr un agosaf) a thrafodwch y trais a’r gamdriniaeth yr ydych yn ei dioddef gyda Swyddog Trais yn y Cartref.

Os ydych chi’n ofnus neu mewn perygl, ffoniwch yr Heddlu ar 999.

 

©2011 All Wales Domestic Abuse and Sexual Violence Helpline. All rights reserved. The Helpline is managed by Welsh Women's Aid - registered under the Industrial and Provident Societies Act 1955 No. 23753R Welsh Women's Aid is an exempt charity. Registered charity number 1140962.