Ydych chi’n amau bod rhywun yn dioddef o gamdriniaeth yn y cartref? |
|
Os ydych chi’n gwybod neu’n amau bod perthynas, ffrind neu gydweithiwr yn dioddef o gamdriniaeth yn y cartref, mae’n gallu bod yn anodd iawn gwybod beth i’w wneud. Mae’n bosibl mai’ch greddf gyntaf yw eich bod am ddiogelu eich ffrind neu berthynas, ond gall ymyrryd fod yn beryglus, a hynny i’r ddau ohonoch chi. Fodd bynnag, nid yw hyn yn golygu y dylech anwybyddu’r mater – mae camau eraill y gallwch chi eu cymryd i’w diogelu nhw a’u teulu. Os ydych chi’n dyst i ymosodiad, gallwch ffonio’r Heddlu ar 999. Os yw eich ffrind yn agored gyda chi ac yn cydnabod y trais, mae’n arwydd cadarnhaol ac yn golygu eu bod yn ymddiried ynoch chi. Ceisiwch gadw mewn cysylltiad â nhw fel nad ydynt yn ymbellhau. Yn aml, mae hyn yn gallu digwydd mewn sefyllfa o’r fath. Fodd bynnag, yn y pen draw, dim ond y nhw all wneud y penderfyniad i adael y berthynas, a gall hyn gymryd sawl cais cyn eu bod yn gadael y berthynas am byth. Ceisiwch eu hatgoffa mai bai'r un sy’n cam-drin yw trais yn y cartref bob tro. Ewch ati i annog y sawl sy’n dioddef i geisio cymorth proffesiynol ac i flaenoriaethu eu diogelwch ar bob adeg. Ceisiwch beidio â bod yn ddiamynedd neu’n feirniadol a chofiwch gadw llinellau cyfathrebu ar agor drwy’r adeg. Byddwch chi’n cynnig gobaith i’r sawl sy’n dioddef. Cofiwch:
I gael rhagor o wybodaeth oddi ar wefannau eraill, cymerwch gip ar ein dolenni defnyddiol. Mae 18% o ddynion wedi dweud eu bod wedi dioddef un achos neu fwy o gamdriniaeth wrth law eu partner ers iddynt droi’n 16 oed. |