Camdriniaeth yn y Cartref

Caiff Camdriniaeth yn y Cartref ei ddiffinio fel y weithred o gam-drin, neu fygwth cam-drin, rhywun yn gorfforol, yn emosiynol, yn seicolegol, yn rhywiol neu’n ariannol gan bartner, perthynas neu berson mewn perthynas agos â nhw, neu a oedd mewn perthynas agos â nhw. Mae’r gamdriniaeth hon hefyd yn cynnwys y sawl sy’n cam-drin yn gadael neu’n achosi plentyn i fod yn dyst i, neu fod mewn perygl o, gamdriniaeth yn y cartref. Yn y bôn mae cam-drin yn y cartref yn cynnwys un person yn camddefnyddio pŵer ac yn defnyddio rheolaeth dros berson arall lle mae, neu y cafwyd, perthynas agos.

Mae’r Llinell Gymorth Camdriniaeth yn y Cartref a Thrais Rhywiol Cymru Gyfan yma 24 awr y dydd i gynnig cymorth cyfrinachol i fenywod sy’n dioddef o gamdriniaeth yn y cartref yng Nghymru.

Ni fyddwn ni’n eich beirniadu chi, nac yn eich beio chi. Yn hytrach, bydd ein staff arbenigol yn cynnig gwasanaeth proffesiynol ac yn deall eich profiadau.

Rydym ni’n darparu gwybodaeth yn rhad ac am ddim am y gwasanaethau canlynol yn eich ardal chi. Mae pob un yn cynnig cymorth ac yn helpu i’ch cadw chi’n ddiogel:

  • Llety brys
  • Cwnsela
  • Hawliau budd-daliadau a lles
  • Materion yn ymwneud â thai (housing)
  • Materion cyfreithiol
  • Lles plant
  • Rhaglenni ar gyfer unigolion sy’n cam-drin
  • Canolfannau Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol (SARCs)

Gall dynion sy’n cael eu cam-drin yn y cartref gan bartner gwrywaidd ddioddef mathau penodol o gamdriniaeth, fel bygythiadau y byddant yn datgelu eu rhywioldeb i’w teuluoedd neu eu cydweithwyr, neu fygythiadau o drais, neu drais er mwyn eu hatal rhag datgelu rhywioldeb eu partner.

 

©2011 All Wales Domestic Abuse and Sexual Violence Helpline. All rights reserved. The Helpline is managed by Welsh Women's Aid - registered under the Industrial and Provident Societies Act 1955 No. 23753R Welsh Women's Aid is an exempt charity. Registered charity number 1140962.