Dynion |
|
Er bod y mwyafrif o’r rheiny sy’n cael eu cam-drin yn fenywod, mae dynion hefyd yn gallu dioddef o gamdriniaeth ac mae angen yr un gefnogaeth arnynt hwy. Gall dynion gael eu cam-drin yn gorfforol ac yn emosiynol. Mae hyn yn cynnwys dynion mewn cyplau o’r un rhyw a dynion mewn perthynas heterorywiol. Yn aml, mae’n anodd i ddynion gael cymorth yn y sefyllfaoedd hyn oherwydd yr ofn y byddant yn cael eu gwawdio, yr ofn na fydd pobl yn eu credu neu’r ofn y byddant yn cael eu trin yn annheg gan asiantaethau. Mae trais yn hollol annerbyniol waeth a yw’r sawl sy’n ei gyflawni neu’n ei ddioddef yn ddyn neu’n fenyw, ac mae gan bawb sy’n dioddef yr hawl i fod yn ddiogel. Mae’n debyg bod pedwar y cant o ddynion rhwng 16-59 oed wedi dioddef o gamdriniaeth yn y cartref |