Trais rhywiol |
|
Mae rhoi pwysau ar berson i berfformio gweithred rywiol yn erbyn ei ewyllys yn fath o gamdriniaeth rywiol – waeth a yw’n digwydd o fewn perthynas ai peidio. p>Mae ymosodiadau rhywiol, rhyw gyda pherson ifanc dan 16 mlwydd oed, llosgach, trais rhywiol (rape) gan ddieithryn neu o fewn perthynas, oll yn droseddau ac yn faterion i’r Heddlu. Yn yr un modd, mae cael rhyw gyda rhywun heb eu caniatâd o achos cyffuriau, alcohol neu’r ffaith eu bod yn anymwybodol hefyd yn drais rhywiol (rape). Yn 2009/10, cafodd 13,991 o achosion o drais rhywiol (rape) a 19,873 o ymosodiadau rhywiol yn erbyn menywod eu cofnodi gan yr Heddlu (yn y DU gyfan). |