Os ydych chi’n bwriadu gadael
|
|
Os ydych yn bwriadu gadael, bydd angen i chi sicrhau eich bod mor ddiogel â phosibl ac nad ydych yn cael unrhyw niwed wrth adael eich cartref a/neu eich partner.
- Byddwch yn ofalus cyn ymddiried yn rhywun am eich cynlluniau i adael
- Ystyriwch p’un a yw gwaharddeb (injunction) yn opsiwn posibl – ceisiwch gyngor cyfreithiol lle bo angen
- Gwnewch set ychwanegol o allweddi ar gyfer y tŷ a/neu’r car a’u cadw mewn man diogel
- Paciwch fag o ddillad, rhifau ffôn, allweddi, arian a’i gadw’n ddiogel er mwyn i chi allu mynd ag ef ar frys neu gofynnwch i ffrind yr ydych yn ymddiried ynddo ei gadw i chi
- Gofalwch bod gennych yr eitemau canlynol (cynifer ag sy’n bosibl) rhag ofn bod yn rhaid i chi ddianc; papurau pwysig fel eich tystysgrif geni, trwydded yrru, papurau ysgaru, papurau morgais/prydles, pasbort, gwybodaeth am yswiriant, cofnodion meddygol, dogfennau lles a mewnfudo, cardiau credyd, manylion cyfrif banc, arian, allweddi ychwanegol (car, tŷ, gwaith), meddyginiaeth a phresgripsiwn, rhifau ffôn a chyfeiriadau (teulu, ffrindiau, meddygon, cyfreithwyr ac asiantaethau cymunedol), dillad, ffotograffau ac eitemau eraill sydd â gwerth sentimental.
- Ewch a rhywbeth gyda chi a all helpu eraill i’ch diogelu chi rhag y sawl sy’n eich cam-drin, megis llun diweddar ohonynt a manylion eu car.
|